OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 46 (Cy. 10) (C.1)
Y Gymraeg, Cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’n dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn y Mesur sy’n ymwneud â phenodi aelodau o Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg gan Weinidogion Cymru.
NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth |
Y dyddiad cychwyn |
Rhif O.S. |
adran 2(2) (yn rhannol) adran 2(3) (yn rhannol) adrannau 138 a 139 adran 146 (yn rhannol) Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6
|
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011 |
2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182)
2011/1586 (Cy. 182) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 46 (Cy. 10) (C. 1)
Y Gymraeg, Cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012
Gwnaed 9 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012.
Cychwyn
2. Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 10 Ionawr 2012—
(a) adran 23(4);
(b) paragraffau 1, 5, 10 ac 11 o Atodlen 4, ac adran 23(1) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
9 Ionawr 2012